Ysgol Iach
Mae Ysgol Glan Morfa wedi bod yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach Conwy ers 2003, ac yn un o’r ychydig ysgolion i lwyddo i ennill pedwaredd ddeilen y cynllun.
Pwrpas y cynllun yw hyrwyddo a chynnal iechyd yr holl ysgol ymhob agwedd o’u hiechyd megis partneriaethau’r gymuned, iechyd emosiynol, ffitrwydd, diogelwch, yr amgylchedd a llawer mwy.
Y Siop Ffrwythau.
Mae siop ffrwythau ar agor yn ystod pob amser chwarae i bawb fedru prynu darn o ffrwyth am 30c. Blwyddyn 6 sy’n gyfrifol am redeg y siop sy’n boblogaidd iawn ymysg y plant a’r staff.
Teithio i’r Ysgol.
Fel rhan o’n prosiect Ysgol Iach mae’r ysgol yn annog plant a rhieni i gerdded i’r ysgol. Mae Bws Cerdded yr ysgol yn cyfarfod ym maes parcio Tesco am 8.30yb bob bore dydd Gwener ac yn cerdded i’r ysgol erbyn 9.00 yb.
Ni chaniateir i rieni yrru car i mewn i faes parcio’r ysgol i ollwng eu plant rhwng 8.00am a 3.45pm oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch.