Hafan > Dosbarthiadau > Y Criw Cymraeg


Y Criw Cymraeg

Penodwyd y Criw Cymraeg i gynorthwyo’r Ysgol i ennill gwobr Aur y Siarter Iaith Gymraeg. Maent yn gweithio’n galed i hybu’r defnydd o Gymraeg tu allan i waliau’r ystafell ddosbarth gan ddewis cerddoriaeth Cymraeg  wythnosol a gwobrwyo disgyblion eraill am ddefnyddio’r iaith ar y buarth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae gwaith yr Ysgol a’r Criw Cymraeg yn holl bwysig i greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol.