Hafan > Ysgol > Cwricwlwm i Gymru


Cwricwlwm i Gymru

Mae’n amser cyffrous i ysgolion Cymru gyda Chwricwlwm i   Gymru wedi cael ei fabwysiadu ym mis Medi 2022. Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu cwricwlwm unigryw sy’n ymateb i   anghenion eu   disgyblion. Mae yna lawer o agweddau amrywiol i ystyried wrth ddylunio’n cwricwlwm newydd, ond sail holl waith yr ysgol yw’r pedwar diben.

Nod ein cwricwlwm yn Ysgol Glan Morfa yw cefnogi ein disgyblion i fod:

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Golygai hyn eu bod nhw eisiau dysgu a gwella eu sgiliau ymhellach yn barhaus a hynny gyda Chymraeg a Saesneg graenus ar eu gwefusau, a gwen ar eu hwynebau.
  • Yn unigolion iach, hyderus sydd yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Golygai hyn eu bod nhw’n datblygu arferion byw bywyd iach, gyda meddylfryd positif am eu hunain, fel eu bod yn medru cyrraedd eu llawn botensial a chyfrannu’n bositif i’w cymdeithas.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith. Golygai hyn eu bod yn mwynhau eu gwaith ac yn medru datblygu ac addasu eu sgiliau trwy gydol eu hoes i ymateb i ddatblygiadau technolegol.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. Golygai hyn eu bod nhw’n unigolion goddefgar sy’n deall a pharchu safbwyntiau eraill ac yn caru Cymru a’r byd.

Ein Gwerthoedd

Parch ac Ymddiriedaeth


Mae pawb yn yr ysgol yn unigryw ac yn bwysig - yn ddysgwyr a theuluoedd, yn staff a rhanddeiliaid.  Rydym yn onest ac agored wrth ein gwaith a pharchwn farn a theimladau pawb.

Lles a Gofal


Rydym yn dangos empathi, gofal a chonsyrn am les pawb.  Rydym yn gwrando ac yn gweithredu i sicrhau bod pawb yn yr ysgol yn teimlo’n ddiogel a bod gan bawb  lais sy’n cael ei glywed.

Hapusrwydd a Mwynhad


Mae ethos pob dosbarth a phrofiadau dysgu yn ysbrydoli ein dysgwyr.  Rydym yn sicrhau bod dysgwyr yn mwynhau profiadau a datblygu cymhelliant wrth ddysgu

Gwytnwch a Hyder


Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol yn ddysgwr a staff i fod yn hyderus  a balch o’n hunain, i groesawu her ac i ddyfalbarhau i gyrraedd ein nod.

Cymru a Chymreictod


Rydym yn dathlu iaith a diwylliant Cymru ymhob rhan o’n gwaith.

Cymuned a Chynefin


Rydym yn chwarae rhan llawn ym mywyd ein cymuned ac mae’r gymuned yn chwarae rhan llawn ym mywyd yr ysgol.  Rydym yn dathlu a gwarchod ein cynefin.

Mentro ac Arloesi


Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol, yn ddysgwyr a staff, i fentro’n hyderus, i feddwl yn greadigol a thorri tir newydd  ac i ddysgu o’n llwyddiannau a’n methiannau.

Cefnogi a Chydweithio


O fewn ein dosbarthiadau, ein hysgol ac ar draws ein clwstwr o ysgolion, rydym yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu a dysgu’n  barhaus.