Chwaraeon
Yn ogystal â rhoi pwyslais mawr ar y dysgu a’r addysgu, credwn yma yn Ysgol Glan Morfa fod gweithgareddau all-gwricwlaidd yn ychwanegu’n fawr at addysg a phrofiadau’r disgyblion.
Dyma wybodaeth am rai o’r gweithgareddau all gwricwlaidd sy’n cael eu cynnig yn yr ysgol.
Chwaraeon yr Urdd
cawn gyfle i gystadlu mewn cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd, criced, rygbi, nofio, athletau a rhedeg traws gwlad.
Pêl rwyd.
Bydd cyfle i ddisgyblion CA2 dderbyn hyfforddiant chwarae pêl rwyd yn ystod y flwyddyn.
Pêl droed
Mae tîm pêl droed y bechgyn, y merched a’r tîm cymysg yn cystadlu’n frwd yn y twrnameintiau lleol. Mae croeso i bob disgybl CA2 ymuno yn yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig yn ystod y flwyddyn.
Rygbi.
Mae plant Blynyddoedd 3 - 6 yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant rygbi ar ôl ysgol.
Criced
Yn ystod tymor yr haf fe gai’r plant gyfle i ddatblygu eu sgiliau criced. Mae sawl cystadleuaeth leol yn cael eu cynnal ac mae’r disgyblion wrth eu boddau yn cymryd rhan.
Clwb Ffitrwydd.
Yn ystod tymor yr hydref fe roddir cyfle i’r disgyblion fynychu’r clwb ffitrwydd - ffordd arbennig o gadw’n heini!