Hafan > Dosbarthiadau > Cyngor Ysgol
Cyngor Ysgol
Sefydlwyd y Cyngor Ysgol ym mis Medi 2005 er mwyn sicrhau fod gan bob disgybl lais i ddatgan eu teimladau am sut y mae’r ysgol yn cael ei redeg, ac i gael eu cynnwys yn y broses gwella ysgol. Mae gan bob dosbarth o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 6 eu cynrychiolwyr a etholwyd gan eu cyfoedion ar ddechrau’r flwyddyn addysgol. Cyfrifoldeb pob cynghorydd yw sicrhau eu bod yn mynegi barn eu hunain a gweddill y dosbarth y maent yn ei gynrychioli. Cynhelir cyfarfod o’r Cyngor pob hanner tymor i drafod unrhyw bwyntiau a godwyd gan y disgyblion.
Credwn yn gryf fod cael Cyngor Ysgol yn fuddiol i’r ysgol, y disgyblion a’r athrawon. Mae’n cynnig cyfleoedd i’r disgyblion i ddatgan eu teimladau i athrawon a staff yr ysgol, yn ogystal â dylanwadu ar benderfyniadau rheolaethol. Mae’r cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddatblygu mewn hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu da.