Siarter Iaith
Fel Ysgol Benodedig Gymraeg, Cymraeg yw iaith yr ysgol - iaith dysgu ac iaith chwarae. Dewis rhieni yw gyrru eu plant atom yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry Di-Gymraeg. Gan fod nifer o’r disgyblion a dderbynnir yn Ddi-Gymraeg, gwneir pob ymdrech yn y blynyddoedd cynnar i’w trochi yn yr iaith trwy weithgareddau chwarae, canu, ail adrodd a dynwared. Mae’n syndod pob tro pa mor gyflym mae iaith pob plentyn yn datblygu. Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y plant yn hollol ddwyieithog i safon uchel, ac yn medru cyfathrebu’n gwbl hyderus yn y ddwy iaith.
Derbyniom Wobr Aur y Siarter Iaith yn 2019, ac rydym wedi gweithio'n ddiwyd i gynnal safonau ers hynny.