Hafan > Ysgol


Ysgol

Math o Ysgol

Ysgol Gynradd Cymunedol Cymysg Penodedig Gymraeg 3-11 oed.

Safle’r Ysgol

Saif Ysgol Glan Morfa ar gyrion Abergele nid nepell o briffordd yr A55 ac mae’n gwasanaethu plant y dref a’r ardaloedd cyfagos. Agorwyd yr ysgol ym 1957 a bellach mae 228 o ddisgyblion llawn   amser ar y gofrestr a 36 o blant meithrin rhan amser.

Trefnir yr ysgol ar sail naw dosbarth.

Mae’r llywodraethwyr a staff yr ysgol yn gweithio’n agos er mwyn sicrhau fod amgylchedd yr ysgol yn sbarduno brwdfrydedd plant ac yn ychwanegu at y profiadau dysgu.

Iaith yr Ysgol

Fel Ysgol Benodedig Gymraeg, Cymraeg yw iaith yr ysgol - iaith dysgu ac iaith chwarae.

Dewis rhieni yw gyrru eu plant atom yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry Di-Gymraeg. Gan fod nifer o’r disgyblion a dderbynnir yn Ddi-Gymraeg, gwneir pob ymdrech yn y blynyddoedd cynnar i’w trochi yn yr iaith trwy weithgareddau chwarae, canu, ail adrodd a dynwared. Mae’n syndod pob tro pa mor gyflym mae iaith pob plentyn yn datblygu. Mae hwyrddyfodiaid i Blwyddyn 3 yn cael lle yn Uned Iaith Dolgarrog am hanner tymor, cyn dychwelyd i’r ysgol.

Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 bydd y plant yn hollol ddwyieithog ac yn  medru cyfathrebu’n gwbl hyderus yn y ddwy iaith.

Mae trefniadau addas yn cael eu gwneud gyda’r ysgolion uwchradd mae Ysgol Glan Morfa yn eu bwydo i sicrhau trosglwyddiant llyfn i’r ysgolion newydd, a pharhad yn addysg y plant.

Bydd yr ysgol yn ymdrechu i gyfathrebu’n ddwyieithog gyda rhieni’r ysgol ar bob achlysur.