Ysgol Glan Morfa LogoYsgol Glan Morfa

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Plant yn gwenu yn y dosbarth
 
 
  • Plant yn gwenu yn y dosbarth
  • Plant yn rhoi dwylo i fynu

Croeso i wefan Ysgol Glan Morfa

Croeso cynnes iawn i chi i wefan Ysgol Glan Morfa. Ysgol Gymraeg benodedig yw Glan Morfa sy’n gwasanaethu tref Abergele a’r cyffiniau ar hyd glannau gogledd Cymru.

Agorwyd yr Ysgol ym 1957 gyda saith o ddisgyblion yn ei fynychu, ond bellach mae dros 250 o ddisgyblion yn dod trwy’i drysau, gyda mwy a mwy o rieni yn gweld budd a manteision addysg ddwyieithog.

Ein prif nod yw sicrhau fod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, a hynny i safon uchel. Ein nod hefyd yw sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’n gyflawn - yn addysgiadol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn ysbrydol ac yn gorfforol - a hynny gyda gwen ar eu hwynebau a Chymraeg ar eu gwefusau.

Rydym yn hynod falch o safonau cyrhaeddiad uchel ein disgyblion ac yn falch o’r llwyddiannau maent yn ei brofi yn allgyrsiol mewn meysydd megis chwaraeon, cerdd, drama a chelf.

Diolch am ymweld â’n gwefan, a gobeithiwn y cewch flas o fwrlwm yr ysgol o fewn y tudalennau.

Prospectws

Dilynwch Ni