Hafan > Dosbarthiadau > Pwyllgor Eco
Pwyllgor Eco
Mae'r Pwyllgor Eco yn cyfarfod bob hanner tymor ac maent yn sicrhau fod y prosiect cyfan yn cael ei weithredu gan bawb yng nghymuned yr ysgol. Mae bod yn rhan o'r Eco-Sgolion yn ymestyn addysg tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn datblygu ymdeimlad o ddinasyddiaeth gyfrifol gartref ac yn y gymuned.
Dewisir aelodau i'r pwyllgor Eco drwy eu hethol ar ddechrau'r flwyddyn gan y dosbarthiadau o flwyddyn 2 i flwyddyn 6.
Y Faner Werdd
Yn sgil ein hymdrechion i fod yn ysgol Eco, rydym wedi llwyddo i ennill Baner Platinwm yr Eco-Sgolion.
Mae’n anrhydedd mawr cael chwifio’r faner uwch yr ysgol fel cydnabyddiaeth o’r gwaith da sy’n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.